SL(6)155 - Rheoliadau Etholiadau Lleol (Diwygiadau Amrywiol a Chanlyniadol) (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Ar 14 Rhagfyr 2021 cymeradwyodd Senedd Cymru Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru) 2021 a Rheolau Etholiadau Lleol (Cymunedau) 2021 (y cyfeirir atynt ar y cyd fel Rheolau 2021).

Mae Rheolau 2021 yn darparu'r rheolau ymddygiad a ddefnyddir wrth ethol cynghorwyr i brif gynghorau ac i gynghorau cymuned yng Nghymru. Mae Rheolau 2021 yn benodol i Gymru ac yn anelu at ddarparu set wedi'i diweddaru ac wedi'i moderneiddio o reolau ymddygiad.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau amrywiol a chanlyniadol i Reolau 2021 ac amrywiol ddarnau eraill o ddeddfwriaeth etholiadau lleol. Er enghraifft:

§  mae Rheolau 2021 wedi’u diwygio i ychwanegu at y rhestr o seiliau y gall y swyddog canlyniadau farnu bod papur enwebu yn annilys, h.y. nad yw'r papur enwebu yn cynnwys y datganiadau y mae'n ofynnol i'r ymgeisydd eu cynnwys yn eu papur enwebu, a lofnodir gan yr ymgeisydd;

 

§  mae’r rheol sy’n llywodraethu’r weithdrefn wrth gau’r bleidlais yn Rheolau 2021 wedi’i diwygio, er mwyn galluogi’r copïau a farciwyd o’r cofnodion cofrestru a’r rhestr dirprwyon a’r rhestr rhifau cyfatebol a farciwyd i gael eu rhoi mewn pecynnau a’u selio mewn man heblaw’r orsaf bleidleisio;

 

§  mae adrannau 67, 69 a 70 o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 wedi’u diwygio, er mwyn bod yn gyson â'r polisi o ganiatáu i ymgeiswyr gadw eu cyfeiriad cartref yn breifat, gan gynnwys pan fo'r ymgeisydd yn gweithredu fel ei asiant etholiadol ei hun;

 

§  mae Rheolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) (Cymru a Lloegr) 2006 a Rheolau Etholiadau Lleol (Plwyfi a Chymunedau) (Cymru a Lloegr) 2006 wedi’u diwygio fel nad ydynt yn gymwys ond o ran Lloegr;

 

§  mae Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007 wedi’i ddiwygio, gan nodi sut y caiff Rheolau 2021 eu haddasu pan fo’r bleidlais mewn etholiad prif ardal neu etholiad cymuned yn cael ei chyfuno â’r bleidlais mewn etholiad Senedd Cymru;

 

§  mae’r Rheoliadau yn gwneud darpariaethau trosiannol, fel nad yw’r Rheoliadau yn effeithio ar gynnal etholiadau lleol yng Nghymru pan fo’r bleidlais yn yr etholiad yn digwydd cyn 5 Mai 2022.

Gweithdrefn

Cadarnhaol Drafft.

Mae Gweinidogion Cymru wedi gosod drafft o'r Rheoliadau gerbron y Senedd. Ni all Gweinidogion Cymru wneud y Rheoliadau oni bai fod y Senedd yn cymeradwyo'r Rheoliadau drafft.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd

Mae'r Nodyn Esboniadol a'r Memorandwm Esboniadol yn rhoi crynodebau ac esboniadau clir iawn o'r Rheoliadau. O ystyried natur fanwl a chymhleth y Rheoliadau, rydym yn arbennig o ddiolchgar am grynodebau ac esboniadau mor ddefnyddiol, sydd wedi bod yn amhrisiadwy yn y broses o’n helpu i graffu ar y Rheoliadau.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

22 Chwefror 2022